|
Cynhaliwyd Cinio Dathlu’r clwb yng Ngwesty’r Talbot, Tregaron ar nos Sadwrn, Tachwedd 28ain. Pryd y death bron gant o chwaraewyr, cyn-chwaraewyr a ffrindiau’r clwb i daro golwg yn ol hanes y clwb yn ystod yr hanner canrif. Croesawyd pawb yno gan Gadeirydd y clwb, Mr. William Jones a braf oedd gweld trawsdoriad o ffrindiau o bob cyfnod wedi ymdrechu i fod yn bressennol ar noson hanesyddol hon. Llwyddwyd y noson gan un o’r cyn-chwaraewyr, sef Vaughan Evans. Cynrychiolwyd Cymdeithas Pel –droed Cymru gan Mr. Dai Alun Jones, eto yn gyn-chwaraewyr, a chynrychiolwyd y cyngheiriau lleol gan Mr. Dai Davies, person arall a fu’n gwisgo lliwiau’r Ser.
Diddorol hefyd nodi fod tri chwaraewyr o dim gwreiddiol 1959 yn bresennol, sef Lloyd Jones, Arwyn Roberts a Calvin Davies. Yn ystod y noson cafwyd cyfraniadau gan Dai Alun Jones, Dai Davies, Lloyd Jones, Arwyn Roberts, Wil Lloyd, Byron Davies, Amlyn Ifans a chan y rheolwr presennol John Jones. Trwy’r cyfraniadau yma, a’r arddangosfa gyflawn a diddorol a baratowyd gan Vaughan Evans, cafwyd darlun cyflawn o hanes y clwb ar hyd y blynyddoedd ynghyd ag ambell stori ddoniol sydd yn rhan anatod o’r hanes hwnnw. Barn pob un ar diwedd y noson oedd i ni gael anser hyfryd iawn yng nghwmni’n gilydd yn dwyn i gof yr holl atgofion. Mae’n bosiby bydd Mygiau’r Dathlu, a gybhyrchwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur yn help i gadw’r clwb yn y cof I’r dyfodol. Dyma englyn John Jones i’r aclysur:
Tim glew yw tim Llanddewi – a gadawodd
I godi’r fath gewri ;
A’r gorau sy’n rhagori
Yn siwr ‘nawr yw ein Ser ni.
Edrychwn ymlaen i’r dyfodol gan ddymuno pob llwyddiant i’r Ser presennol. |